Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 17 Hydref 2023
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol 2023-24
(60 munud)
4 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Economaidd Rhanbarthol
(30 munud)
5 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb
(30 munud)
6 Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Ty Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2023
(15 munud)
NDM8377 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Medi 2023.
7 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
(30 munud)
NDM8378 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Medi 2022, Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig ar 25 Tachwedd 2022, Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar 30 Tachwedd 2022, 27 Ebrill 2023, 16 Awst 2023 a 5 Hydref 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Ffyniant Bro ac Adfywio - Senedd y DU
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 5)
Ymateb i adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Memorandwm Rhif 4)
Llythyr gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Memorandwm Rhif 4)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 4)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 3)
Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
8 Dadl: Adroddiad Blynyddol 2022-23 Comisiynydd Plant Cymru
(60 munud)
NDM8376 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2022-23.
Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2022-23
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod traean o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi rhwng 2019 a 2022, ond yn gresynu bod yr ystadegyn hwn yn dod o gyfnod cyn yr argyfwng costau byw presennol, sy'n golygu bod y gwir ffigur tlodi plant yn debygol o fod yn llawer uwch.
Yn cefnogi galwad y Comisiynydd Plant ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth fanwl ar gyfer tlodi plant sy'n cynnwys camau gweithredu, targedau a cherrig milltir penodol ar gyfer cyflawni.
9 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 18 Hydref 2023